Mae Grŵp Bwyd Môn yn grŵp ymroddgar o wirfoddolwyr, pob un ohonynt yn rhoi o’u hamser i helpu i hyrwyddo cynhyrchion bwyd Ynys Môn.
Ein blaenoriaeth fwyaf yw gwneud popeth y gallwn i hyrwyddo Ynys Môn fel cyrchfan bwyd, hybu enw da’r ynys ac annog y rheiny sy’n mwynhau bwyd da, gonest i archwilio a phrofi’r cynnyrch sydd gan yr ynys i’w gynnig.
Hoffem glywed gan unrhyw fusnesau bwyd a diod ar Ynys Môn sy’n rhannu ein gweledigaeth ac egwyddorion.
Os penderfynwch ymuno, cewch eich gwahodd, ynghyd â holl aelodau eraill Grŵp Bwyd Môn, i fynychu ein cyfarfodydd, lle gallwch gyfrannu eich syniadau a’ch profiadau a manteisio ar weithgareddau marchnata. Mae hyn yn cynnwys aelodaeth o wefan Gorau Môn, a sylw i’ch busnes yn ein deunyddiau marchnata.
Os dymunwch ddod yn aelod a dweud wrth y byd bod eich busnes yn cynnig Gorau Môn, yna darllenwch ein Côd Ymarfer isod, os gwelwch yn dda, ac wedyn cliciwch ar y botwm ‘dod yn aelod’ ar waelod y dudalen i’n e-bostio ni ac i ofyn am ffurflen aelodaeth.
COD YMARFER GRŴP BWYD MÔN
Disgwylir i aelodau Grŵp Bwyd Môn ymrwymo i’r canlynol pryd bynnag bo hynny’n berthnasol ac yn ymarferol:
- Defnyddio cynnyrch cynradd o Ynys Môn a Gogledd Cymru os ydyw ar gael. Dylai hynny gynnwys cig, pysgod a llysiau.
- Defnyddio cynnyrch eilaidd o Ynys Môn a Gogledd Cymru os ydyw ar gael. Gall hynny gynnwys cynnyrch megis caws, hufen iâ a melysion.
- Ymgorffori “ymdeimlad o le” wrth hyrwyddo cynnyrch lleol. Gall hyn gynnwys gweithgareddau megis cyfeirio at gynhyrchwyr lleol ar fwydlenni; cynnwys delweddau lleol ar ddeunydd pacio, neu ddefnyddio’r iaith Gymraeg ar ddeunydd hyrwyddo. Dylai bwydlenni adlewyrchu’r farchnad leol a bod yn addas.
- Hyrwyddo cynnyrch lleol ar bob cyfle. Gall hyn gynnwys siarad â chwsmeriaid mewn tŷ bwyta, cwsmeriaid mewn siop cynnyrch lleol neu bartneriaid busnes.
- Gweithio gyda thyfwyr, cynhyrchwyr, siopau a thai bwyta ar bob cyfle i gryfhau enw da Ynys Môn fel cyrchfan bwyd.
- Cefnogi a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd lleol sy’n ceisio hyrwyddo Ynys Môn fel cyrchfan bwyd. Gall hyn gynnwys ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, gwobrau bwyd a digwyddiadau.