Cwmni teuluol llwyddiannus ar Ynys Môn, a sefydlwyd yn 2006, yw Y Cwt Caws. Cynhyrchwyr artisan ydym, yn canolbwyntio ar gynhyrchu amrywiaeth o safon o Gaws Gafr Cymreig wedi’i Basteureiddio.
I ni, mae lles anifeiliaid o’r pwys mwyaf ac rydym yn annog yn erbyn defnyddio plaleiddiaid, cemegion a chadwolion, er mwyn sicrhau bod y llefrith a gynhyrchwn mor naturiol a phur â phosib. Mae pob un o’n cawsiau’n addas ar gyfer llysieuwyr. Mae’n cael ei gydnabod yn eang fod manteision iechyd yn gysylltiedig â bwyta caws gafr i bobl sydd ag alergeddau ac anoddefiadau bwyd. Mae hefyd yn dod yn fwy poblogaidd wrth i gymdeithas ddod yn fwy ymwybodol o faterion iechyd, deiet a lles.
Rydym wedi bod yn hynod ffodus o fod wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd am ein caws unigryw, bendigedig. Rydym yn gwerthu ein caws ar ein safle yn Nulas, Ynys Môn; mewn sawl marchnad ffermwyr misol a thymhorol; ac mewn siopau fferm ar hyd a lled gogledd Cymru. Gallwn anfon ein caws drwy archeb bost a’i ddanfon y diwrnod ar ôl archebu i leoliadau yn y DU, a gallwn ddosbarthu ar sail cyfanwerthu i gwsmeriaid mwy. Mae ein caws yn cael ei ddefnyddio mewn llawer o fwytai ar hyd a lled Ynys Môn a gogledd Cymru
Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo a gweld fel sioe sleidiau.
Mwy am Y Cwt Caws
Cyfeiriad
Cors Yr Odyn, Dulas, LL70 9DXOriau agor
Llun – Sadwrn 9:30-5:00- Royal Welsh Show Gold Award 2014 – Ffetys
- Royal Welsh Show 2014, Eurwen Richards Award Best Welsh Produced Cheese – Mon Wen
- Hooton’s Home Grown
- Tredici
- Fron Goch Shop
- Blas Ar Fwyd
- Castell Howell
Comments are closed.