Gŵyl Fwyd i’w Chofio

Menai Bridge Food Slam

Roedd hi’n ddechrau mis Gorffennaf, ac roeddem yn mwynhau ein gwyliau teuluol ar Ynys Môn. Roeddwn i, fy ngŵr a’n plant yn aros y tu allan i dref glan môr fach hyfryd Biwmares. Roeddem wedi cael diwrnod ymlaciol yn bwyta hufen iâ a cheisio dal crancod. Yn fwriadol, ni wnaethom fwyta llawer gan ein bod yn edrych ymlaen at yr Ŵyl Fwyd ym Mhorthaethwy y noswaith honno.

Roeddem wedi prynu ein tocynnau yn Dylan’s ar ôl bwyta yno’r noswaith gynt a blasu eu bwyd môr enwog, gwyddom y byddai ganddynt stondin yn y digwyddiad ac roeddem ar binnau eisiau cael blasu eu harbenigeddau eraill, ymysg sawl danteithfwyd arbennig a blasus arall a oedd i’w gael o stondinau amrywiol eraill.

Gwnaethom ein ffordd i Borthaethwy yn gynnar y noson honno, ac ar ôl cael trafferth i barcio, gwnaethom gerdded tuag at brysurdeb y tyrfaoedd ger ymyl y dŵr. Roedd hi’n noswaith hyfryd, roedd yr haul yn dal i fod allan ac roedd pawb yn gwneud y mwyaf ohono, roedd grwpiau o deuluoedd a ffrindiau yn mwynhau bwyd, crefftau a diod lleol.

Wrth iddi fachlud, daeth y goleuadau ymlaen fesul dipyn a dechreuodd Banda Bacana – band lleol -berfformio. Roedd eu cerddoriaeth fel cyfuniad o Ladinaidd a Reggae ac roedd yn gweddu i’r awyrgylch yn berffaith. Beth bynnag, af ymlaen i’r rhan bwysicaf a phwrpas y noswaith….bwyd!

Roedd sawl stondin wedi’i gosod yn edrych dros y Fenai, a’r cwbl yn lleol i Fôn. Ein hymweliad cyntaf oedd â stondin Hooton’s Homegrown a oedd yn gwerthu llysiau wedi’u tyfu gartref a chig anifeiliaid wedi’u magu gartref. Roedd popeth ar eu stondin wedi’i ddewis, ei gigyddio a’i baratoi yn ofalus ar y safle, gan sicrhau ansawdd, ffresni a blas gwell. Cawsom flasu rhai o’u bwydydd ac roeddem wedi’n rhyfeddu, roedd hyd yn oed fy mab ifanc yn cytuno ei fod yn hoffi cawl llysiau, a oedd yn gamp ar ôl y drafferth a gefais i gael unrhyw fath o lysiau ynddo. Bron imi â phrynu ychydig o’u pethau, yn enwedig y cigoedd. Fodd bynnag, byddai cael rhywle i’w storio nes i ni gyrraedd adref yn broblem, felly aethom i Hooton’s ar fore ein hymadawiad a llenwi bŵt y car!

Yr ail stondin i ni ymweld â hi oedd stondin Anglesey Hog Roasts, ac am fochyn rhost oedd ganddynt! Roeddem yn llwgu gan ein bod wedi mynd heb fwyd yn ystod y dydd yn barod am hyn. Cawsom rôl cig mochyn enfawr yr un, gan fwynhau bob tamaid ohono. Fe wnaethom barhau i grwydro drwy’r stondinau, gan ymweld â’r Marram Grass a Menai Tandoori a oedd yn ddeniadol iawn. Roedd gan y dafarn leol, The Auckland, eu coctels angheuol a oedd yn sicr yn driw i’w henw, sef ‘legendary lethal cocktails’ (mewn gwirionedd, roeddwn yn hanner-meddw erbyn diwedd y noson).

Roedd rhywbeth at ddant pawb, aeth fy ngŵr â’r plant ar y RibRide ar hyd y Fenai, roeddwn yn teimlo ychydig yn rhy fregus ar ôl fy nghymysgedd angheuol, felly yfais ychydig o gwrw lleol gan wrando ar Dan Amor, cerddor lleol yn perfformio’r noson honno.

Ar ôl noswaith hwyliog a blasus, cerddasom ar lan y dŵr am y tro olaf. Erbyn hyn, roedd hi bron yn dywyll ac roedd goleuadau Pont Menai yn adlewyrchu ar yr afon. Meddyliais pa mor lwcus oeddwn i gael profi’r diwylliant lleol yn y lle bach gwych hwn yn ogystal â gwneud ffrindiau newydd o Ogledd Cymru. Yn sicr, byddaf yn ôl i ymweld eto!

, , , , , ,