Cwrw Gogledd Cymru

Roedd mynd ar wyliau i Ynys Môn yn brofiad newydd i mi a’m partner, roeddem yn aros gyda theulu ym Mhenmon, pentref bychan ar fraich yr ynys. Roedd hi’n ddechrau mis Medi, fel oedd y plant yn dychwelyd i’r ysgol. Felly, llwyddom i osgoi prysurdeb gwyliau’r haf.

Awgrymodd fy Modryb a’m Hewythr ein bod yn treulio’r diwrnod yng Ngŵyl Fwyd Biwmares yn ystod y penwythnos a oedd ar ddod, er nad oedd gan yr un ohonom lawer o le i ennill pwysau! Cyraeddasom oddeutu hanner dydd a chawsom amser hyfryd yn blasu’r holl gynnyrch lleol sydd ar gael o gwmpas yr ynys wych hon. Roedd ambell i stondin yn benodol a oedd yn apelio at y ddau ohonom, sef y rheiny a oedd yn gweini cwrw lleol. Ar ôl ein diwrnod yn blasu’r cwrw blasus o’r bragdai lleol, yn ogystal â’r bwyd gwych a oedd ar gael, penderfynom nad oeddem wedi cael digon (ni allwch fyth gael digon o gwrw).

Yn ystod gweddill ein harhosiad, gwnaethom yr ymdrech i fwyta ac yfed mewn sefydliadau a oedd yn gweini’r cwrw lleol blasus yr oeddem wedi cael blas arnynt. Ar y prynhawn Llun aethom am ginio i The White Eagle yn Rhoscolyn lle cawsom fwyd da a chwrw gwell. Roeddent yn cynnig Amnesia o Fragdy Môn – sef cwrw yfadwy tywyll gyda blas chwerw, cyfoethog; un a ddaeth yn ffefryn i mi. Roeddynt hefyd yn cynnig cwrw amrywiol o Fragdy Conwy gan gynnwys Honey Fayre, a gallwch ddyfalu o’r enw, bod ganddo aroglau mêl ac mae’n gwrw chwerw, ysgafn ac adfywiol. Roedd gan Welsh Pride mwy o flas sitrws ac ôl-flas cnau – roedd yn mynd yn berffaith â phorc.

Ar y dydd Mawrth aethom i’r Tavern on the Bay am gwrw yn y prynhawn gyda golygfeydd ffantastig o Draeth Coch ac yna ymlaen i Ye Olde Bull’s Head am wledd wych gydag ychydig mwy o gwrw. Roedd yr awyrgylch yma yn hynod draddodiadol, roedd gan y Tŷ Rhydd gasgliad o hen bethau diddorol, tân coed agored a thrawstiau derw. Roedd ymlacio yma gyda chwrw Cymreig traddodiadol yn ddiwedd perffaith i’n noswaith.

Aethom i Black Lion Inn ar y dydd Mercher, sef tafarn rhestredig Gradd II o’r 18fed Ganrif wedi’i hadnewyddu’n hyfryd. Mae gan y perchnogion angerdd gwirioneddol tuag at fwyd a diod, a byddant yn defnyddio popeth mor lleol ag sy’n bosibl. Cawsom wystrys a misglod Menai wedi’u dal yn y Fenai, ynghyd â chwrw wrth gwrs. Roedd ganddynt un o’r enw Seithenyn o fragdy Cwrw Llŷn a oedd yn gwrw iachusol euraid. Yr hyn sy’n ddiddorol ynghylch y cwrw gan Gwrw Llŷn yw bod gan y cwbl stori i’w henw. Seithennyn oedd ceidwad y llifddorau yn iseldiroedd ffrwythlon Cantre’r Gwaelod rhwng Llŷn a Cheredigion. Roedd o hefyd yn feddwyn a aeth yn feddw iawn ym mhriodas merch y brenin un diwrnod. Anghofiodd am yr amddiffyniadau môr, daeth storm o’r gorllewin a boddwyd Cantre’r Gwaelod, gan greu Bae Ceredigion. Roeddwn yn gweld hyn yn hynod ddiddorol. Roeddynt hefyd yn cynnig Mŵs Piws. Mae Cwrw Eryri wastad wedi bod yn un o’m hoff ddiodydd, cwrw golau â chyfuniad cynnil o chwerwder aromatig.

Yn anffodus, daeth ein hamser ar yr ynys arbennig hon i ben, ac roedd hi’n amser i ni bacio ein bagiau. Wrth gwrs, roeddem wedi sicrhau ein bod wedi cael digon o gwrw Gogledd Cymru i fynd yn ôl gyda ni…wedi’r cyfan, roedd hi bron yn benwythnos eto!