Mae Marchnad Ffermwyr Ynys Môn yn ddigwyddiad bwyd rheolaidd a phoblogaidd iawn ar Ynys Môn. Gydag oddeutu 30 o gyfranogwyr cyson, mae rhywbeth at ddant pawb.
Isod fe welwch restr o aelodau Grŵp Bwyd Môn sy’n cymryd rhan ym Marchnad Ffermwyr Ynys Môn. Pe hoffech wybod mwy ynghylch y farchnad ewch i’n tudalen ddigwyddiadau, neu ymwelwch â gwefan Marchnad Ffermwyr Ynys Môn.
Pe hoffech wybod mwy ynghylch unrhyw un o’r aelodau yn y rhestr isod, cliciwch ar enw’r busnes i weld ei dudalen ‘proffil aelod’ lle gallwch ddarllen ynghylch cefndir y cwmni a chanfod sut y gallwch gysylltu.
Halen Môn / Anglesey Sea Salt
Halen môr wedi’i wneud 100% o ddŵr môr pur Ynys Môn a dim arall yw Halen Môn....
Y Cwt Caws
Cwmni teuluol llwyddiannus ar Ynys Môn, a sefydlwyd yn 2006, yw Y Cwt Caws....
Y Cwt Mwg
Mae’r Cwt Mwg yn gyfleuster mwg wedi ei leoli ar Ynys Môn. Rydym yn trin ein cynnyrch â mwg mewn odyn gan ddefnyddio derw a phren caled...